Director of Transformation, Strategy and People

Posted 05 September 2024
Salary £70,000-£75,000
LocationBirmingham
Job type Permanent
Reference36635
Contact NameCatherine Hingston

Job description

Job Description

Teitl Swydd: Cyfarwyddwr Trawsnewid, Strategaeth a Phobl

Lleoliad: Birmingham neu Gaerdydd (Hybrid)

Amdanom ni

CCW yw'r llais annibynnol angerddol, sy'n cynrychioli defnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Rydyn ni’n cefnogi miloedd o bobl bob blwyddyn, gan ddarparu cyngor a chymorth am ddim sy'n helpu pobl i ddatrys eu cwynion gyda'u cwmni dŵr mewn ffordd hawdd a gofalgar. Rydyn ni’n hyrwyddo anghenion a buddion pawb, gan gwblhau ac arddangos ymchwil sy'n dylanwadu ar gwmnïau dŵr, y llywodraeth a'r rheoleiddiwr i sicrhau newid.

Ein gwerthoedd:

Rydyn ni’n disgwyl ac yn cefnogi holl gydweithwyr CCW i ymgorffori a dathlu gwerthoedd CCW trwy egni cadarnhaol, parch at bawb, ysbryd arloesol, cyflawni ein haddewidion ac ymgysylltu fel un.

Beth fyddwch chi'n ei wneud

Rydyn ni’n chwilio am Gyfarwyddwr Trawsnewid, Strategaeth a Phobl i ymuno â'n tîm Gweithredol. Byddwch yn adrodd i'r Prif Swyddog Gweithredol, a byddwch yn aelod allweddol o Dîm Gweithredol CCW, sy'n gyfrifol am gefnogi, datblygu a gweithredu cynlluniau strategol CCW. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol ym mhob mater sy'n ymwneud â phobl, datblygu strategaeth, a rhaglenni newid CCW.

Noder: Mae hon yn rôl hybrid gyda gofyniad cyson i ymweld â swyddfa Birmingham, yn aml yn wythnosol.  Bydd angen aros dros nos a theithio i rannau eraill o Gymru a Lloegr.

Am bwy rydyn ni’n chwilio:

Fel Cyfarwyddwr Trawsnewid, Strategaeth a Phobl, bydd gennych chi:

  • Y gallu i ddylanwadu a datblygu hyder ar bob lefel sefydliadol.

  • Arddull bersonol hyblyg sy'n hwyluso cyfathrebu rhagorol ar bob lefel.

  • Sgiliau arweinyddiaeth gyda phrofiad o arwain newid yn y sector cyhoeddus.

  • Gallu amlwg i ddylanwadu ar randdeiliaid allanol.

  • Profiad ymarferol o arwain ac ysgogi timau, meithrin diwylliant o welliant parhaus ac arwain drwy esiampl.

  • Gallu amlwg i gyflwyno rhaglenni cymhleth ledled y sefydliad.

  • Profiad o arweinyddiaeth strategol mewn sefydliad cymhleth, gan gynnwys gweithio'n agos gyda Byrddau fel rhan o Uwch Dîm Rheoli i gyflawni amcanion y sefydliad.

  • Ymrwymiad i hunanddatblygiad a dysgu parhaus.

  • Profiad o ddod â dealltwriaeth allanol i'n sefydliad sy'n annog twf drwy feincnodi.

  • Gwybodaeth am raglenni dylunio sefydliad a boddhad gweithwyr, gyda gallu amlwg i fesur cynnydd a sicrhau gwelliant.

  • Tystiolaeth o gynllunio da a galluoedd rheoli prosiectau.

  • Y gallu i feithrin perthynas waith gyda rhanddeiliaid ar bob lefel.

  • Profiad o reoli risg.

Cyflog a Buddion:

Cyflog cychwynnol o £70-75,000

Mae'r buddion yn cynnwys Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Gwyliau Blynyddol Hael, Opsiynau Gweithio Hyblyg, Gostyngiadau Manwerthwr a Gofal Iechyd/arian yn ôl, Benthyciadau Tocyn Tymor Teithio, Benthyciadau Beic, Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llawer mwy.