Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol   

Posted 26 March 2024
Salary £25,000
LocationCardiff
Job type Permanent
Reference36596
Contact NameLeanne Stevenson

Job description

Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol         

Lleoliad: Caerdydd neu Birmingham (cyfleoedd gweithio hyblyg a hybrid)

Amdanom ni

CCW yw’r llais annibynnol dros ddefnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn cefnogi miloedd o bobl bob blwyddyn, gan ddarparu cyngor a chymorth am ddim sy'n helpu pobl i ddatrys eu cwynion gyda'u cwmni dŵr mewn ffordd hawdd a gofalgar. Rydym yn hyrwyddo anghenion a diddordebau pawb, gan gwblhau ac arddangos ymchwil sy'n dylanwadu ar gwmnïau dŵr, y llywodraeth a'r rheoleiddiwr i wneud i newid ddigwydd.

Ein gwerthoedd

Rydym yn disgwyl i holl gydweithwyr CCW ymgorffori a dathlu gwerthoedd CCW, ac rydym yn eu helpu i wneud hynny, trwy weithredu’n gadarnhaol, parchu pawb, dangos ysbryd arloesol, cyflawni ein haddewidion ac ymwneud fel un (PRIDE).

Beth fyddwch chi'n ei wneud

Fel Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth dyfu ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a chefnogi ein hymdrechion cyfathrebu. Gan adrodd i'r Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, cewch gyfle i ddefnyddio eich sgiliau wrth gynhyrchu cynnwys deniadol a dadansoddi data i lywio ein strategaethau cyfathrebu.

Yn y rôl hon, byddwch yn gyfrifol am greu ac amserlennu cynnwys o'r radd flaenaf ar draws amrywiol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn unol â strategaeth cyfryngau cymdeithasol a chanllawiau brand CCW. Byddwch yn cynhyrchu cynnwys cyfryngau cymdeithasol risg isel ar eich liwt eich hun, gan ystyried enw da, a dadansoddi metrigau cyfryngau cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth ar gyfer ymgyrchoedd a strategaethau yn y dyfodol.

Disgwylir i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y maes cyfryngau cymdeithasol sy'n prysur newid ac addasu gweithgareddau yn unol â hynny. Hefyd, byddwch yn rheoli adnoddau hanfodol ar gyfer ymdrechion cyfathrebu ac yn gwerthuso effeithiolrwydd gweithgareddau cyfathrebu CCW. Byddwch yn helpu i redeg ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn effeithlon ac yn helpu cydweithwyr i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol. Gydag offer fel ffôn, gliniadur gyda rhaglenni perthnasol, a'r gallu i ddefnyddio camera a chreu podlediadau, byddwch hefyd yn ymwneud ag arbenigwyr a rheolwyr o gwmnïau eraill i feithrin cydweithio.

Beth rydym ni'n chwilio amdano

  • Profiad perthnasol wrth gynhyrchu cynnwys deniadol ar draws llwyfannau/platfformau gwahanol.

  • Hyfedredd mewn dadansoddi data ac offer adrodd, gan gynnwys dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol.

  • Yn gyfarwydd ag offer rheoli cyfryngau cymdeithasol fel Orlo, Hootsuite, a Sprout Social.

  • Sgiliau llythrennedd uchel mewn cyfrifiadura a'r gallu i ddysgu systemau newydd yn gyflym.

  • Profiad o olygu fideo/sain a dylunio graffig.

  • Gwybodaeth am MS Excel ar gyfer cofnodi data a chyflwyno data cywir.

  • Dealltwriaeth o ganllawiau hygyrchedd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.

  • Y gallu i asesu'r peryglon posibl i enw da sy'n gysylltiedig â defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.

  • Sgiliau ymchwil cryf a'r gallu i gyfathrebu syniadau newydd yn effeithiol.

  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, wedi'u haddasu i gynulleidfaoedd gwahanol.

  • Sgiliau rhyngbersonol cryf ar gyfer cydweithredu effeithiol â chydweithwyr a rhanddeiliaid.

  • Parodrwydd a'r gallu i ddysgu pecynnau dylunio fel Adobe.

  • Yn greadigol, yn arloesol a dyfeisgar, ac yn gallu addasu i newid.

  • Gallu adrodd straeon yn fedrus a threfnu tasgau'n effeithlon.

  • Chwaraewr tîm gydag agwedd ragweithiol.

Cyflog

Cyflog o £25,000.

Buddion yn cynnwys

  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

  • Gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod o wyliau yn codi 1 diwrnod bob blwyddyn hyd at uchafswm o 30 diwrnod.

  • Opsiynau gweithio hyblyg.

  • Gostyngiadau manwerthu a gofal iechyd / arian yn ôl.

  • Benthyciadau tocyn tymor teithio.

  • Benthyciadau beic.

  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llawer mwy.

  • Mynediad i gyfleoedd hyfforddi sy'n cynnwys cyrsiau a ariennir gan CCW yn ogystal â hyfforddiant gwasanaeth sifil ac adnoddau gwasanaeth cyfathrebu'r llywodraeth.

DS: Rôl hybrid yw hon, a bydd angen mynd i swyddfa Birmingham bob mis.  
Os oes gennych chi ddiddordeb, cliciwch ar ‘Apply Now’a bydd aelod o'n tîm mewn cysylltiad â chi.