Rheolwr Polisi

Posted 13 March 2024
Salary £35,000
LocationBirmingham
Job type Permanent
Reference36595
Contact NameLeanne Stevenson

Job description

Teitl y Swydd: Rheolwr Polisi            

Lleoliad: Birmingham neu Gaerdydd (CyfleoeddGweithio Hybrid a Hyblyg)

Amdanomni

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW) yw’r llais annibynnol, brwdfrydig sy’n cynrychioli defnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn cynorthwyo miloedd o bobl bob blwyddyn, ganroicyngor a chymorth am ddim ihelpu pobl i ddatrys eu cwynion gyda’u cwmni dŵr mewn ffordd rwydd a gofalgar. Rydym yn hyrwyddo anghenion a buddiannau pawb, gan gwblhau ac arddangos ymchwil sy’n dylanwadu ar gwmnïau dŵr, y llywodraeth, a’r rheoleiddiwr i wireddu newid.

Ein gwerthoedd:

Rydym yn disgwyl i holl gydweithwyr CCW ymgorffori a dathlu gwerthoedd CCW, ac rydym yn eu cynorthwyo i wneud hynny, trwy weithredu’n gadarnhaol, parchupawb, dangos ysbryd arloesol, cyflawni ein haddewidion ac ymgysylltu fel un.

Yrhyn y byddwchyneiwneud

A chithau’n adrodd i’r Pennaeth Ymgysylltu â Chwmnïau, cewch eich neilltuo igwmnïau dŵr i fod yn bwynt cyswllt cyntaf iddynt fel eich prif ffocws. Chi yw’r unigolyn yn ein sefydliad y bydd y cwmnïau hyn yn cysylltu ag ef, gan arwain yr ymgysylltiad o ddydd i ddydd. Byddwch yn gyfrifol am amlygu risgiau a chyfleoedd ar gyfer cymorth ac eiriolaeth defnyddwyr, gan gyflawni ein cenhadaeth, sef sicrhau bod pobl yn wybodus, yn cael eu trin yn deg ac yn hyderus yn eu gwasanaethau dŵr.

Byddwch yn arwain maes polisi, gan ddod yn arbenigwr ar bwnc penodol. Byddwch yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch cydweithwyr am ddatblygiadau yn eich maes, yn ogystal â chwilio am gyfleoedd i wneud newidiadau sydd o fudd i’r holl ddefnyddwyr yng Nghymru a Lloegr. O ran dylanwadu ar yr agenda, byddwch yn cydweithio â sefydliadau partner ar brosiectau polisi a rennir, yn cyfrannu at ymatebion ymgynghori, ac yn cynnig gwybodaeth i lywio prosesau penderfynu allweddol.

Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth i gefnogi, datblygu, a chyflawni ein rhaglenni gwaith a’n hymgyrchoedd. Mae ymgyrchu’n gyfrifoldeb pwysig arall. Disgwyliri chi gynnig a chyfrannu at ddatblygu ymgyrchoedd newydd, gan ddefnyddio tystiolaeth ac arbenigedd i arwain mentrau sy’n cael effaith fawr.

Mae cyfathrebu’n allweddol, ac felly bydd angen ymgysylltu’n rheolaidd â rhanddeiliaid mewnol, gan gynnwys uwch arweinwyr a thimau ehangach. Yn ogystal, mae ymgysylltu’n allanol ag endidau fel cwmnïau dŵr a chyrff defnyddwyr yn allweddol i gydweithio ac eirioli’n effeithiol.

Sylwer: Rôl hybrid yw hon sy’n cynnwys gofyniad i ymweld â swyddfa Birmingham yn fynych, a hynny’n aml yn wythnosol. Bydd angen aros dros nos yn Birmingham ac mewn rhannau eraill o’rwlad

Pwyrydymynchwilioamdano:

A chithau’n Rheolwr Polisi, byddwch yn gallu dangos:

  • Sgiliau datblygu polisi

  • Mewnbwn arweinyddiaeth a mewnbwn strategol at feysydd polisi arweiniol

  • Mewnbwn at adolygu prisiau i ddylanwadu ar gynlluniau busnes cwmnïau

  • Dylanwadu ar yr agenda

  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid

  • Cydweithio â sefydliadau partner ar brosiectau polisi sy’n fuddioli bawb

  • Rheoli ymgyrchoedd

  • Profiad o amgylcheddau a reoleiddir a gwybodaeth amdanynt!

  • Y gallu i gynrychioli CCW yn effeithiol gyda rhanddeiliaid allanol

  • Parodrwydd i deithio ledled Cymru a Lloegr

  • Hyblygrwydd i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol o bryd i’w gilydd.

Cyflog a Buddion:

Cyflogcychwynnol o £35k-43k

Mae’r buddion yn cynnwys Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Oriau Hyblyg gyda hyd at 24 o ddiwrnodau ychwanegol i ffwrdd y flwyddyn, darpariaeth Gwyliau Blynyddol hael, Opsiynau Gweithio Hyblyg, gostyngiadau/arian yn ôl gyda Manwerthwyr a Gofal Iechyd, Benthyciadau Tocynnau Teithio Tymor, Benthyciadau Beiciau, Rhaglen Cymorthi Gyflogeion a llawermwy.