Uwch Arweinydd Polisi - Cyllid        

Posted 27 March 2024
Salary £47,000-£52,000
LocationCardiff
Job type Permanent
Reference36598
Contact NameLeanne Stevenson

Job description

Teitl y Swydd: Uwch Arweinydd Polisi - Cyllid            

Lleoliad:Caerdydd neu Birmingham (cyfleoedd gwaith hybrid a hyblyg)

Amdanom ni

CCW yw’r llais annibynnol dros ddefnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn helpu miloedd o bobl bob blwyddyn, gan ddarparu cyngor a chymorth am ddim er mwyn helpu pobl i ddatrys eu cwynion gyda'u cwmni dŵr mewn ffordd hawdd a gofalgar. Rydym yn hyrwyddo anghenion a buddiannau pawb, gan gwblhau ac amlygu gwaith ymchwil sy'n dylanwadu ar gwmnïau dŵr, y llywodraeth a'r rheoleiddiwr er mwyn sicrhau newid.

Ein gwerthoedd

Rydym yn disgwyl i holl gydweithwyr CCW ymgorffori a dathlu gwerthoedd CCW, ac rydym yn eu helpu i wneud hynny.Y gwerthoedd hynny yw gweithio gydag egni cadarnhaol, dangos parch ibawb, dangos ysbryd arloesol, cyflawni ein haddewidion ac ymgysylltu fel un (PRIDE).

Beth fyddwch chi'n ei wneud

Gan adrodd i'r Pennaeth Cyflenwi Polisi, byddwch yn gyfrifol am arwain, datblygu a gweithredu ein polisïau sy'n ymwneud â chyllid y cwmni. Mae hynny’n cynnwys:

  • Asesu cynigion prisiau cwmnïau o flwyddyn i flwyddyn a chefnogi strwythurau tariff, gan lywio safbwynt CCW ar ba mor dderbyniol yw tariffau a phrisio ac arwain sgyrsiau pan fo angen herio rhywbeth. Bydd disgwyl i chi adrodd i Fwrdd CCW ar gynigion codi tâl cwmnïau.

  • Archwilio cyfrifon ac adroddiadau perfformiad blynyddol ac interim cwmnïau dŵr ac Ofwat i nodi meysydd perfformiad ariannol pan fo buddiant dilys i gwsmeriaid. Chi fydd yn berchen ar yr ystorfa wybodaeth ariannol a disgwylir i chi ei datblygu/diweddaru yn flynyddol.

  • Crynhoi perfformiad ariannol cwmnïau yn flynyddol, gan gynnwys pan fo cwmnïau wedi ennill gwobrau cymhelliant ac wedi cael cosbau.  Byddwch yn cynghori cydweithwyr CCW am y goblygiadau i gwsmeriaid, er mwyn llywio sgyrsiau adeiladol gyda chwmnïau am eu perfformiad a lle mae angen gwelliannau.

  • Cynghori'r Bwrdd, y Tîm Gweithredol a'r tîm polisi am faterion neu broblemau gyda pherfformiad ariannol y cwmni i lywio trafodaethau gydag Ofwat, cwmnïau dŵr a rhanddeiliaid eraill, yn enwedig os yw'r fframwaith rheoleiddiol i weld yn ffafrio'r cwmni/cyfranddalwyr ar draul cwsmeriaid.

  • Cynghori cydweithwyr y tîm polisi am faterion, tueddiadau ac arsylwadau o berfformiad ariannol cwmnïau a all lywio meysydd polisi eraill megis codi tâl a thariffau, a’r ffordd y mae'r sector dŵr yn cael ei reoleiddio.

  • Gwybod y diweddaraf ynglŷn â fframweithiau rheoleiddio eraill er mwyn llywio gwaith CCW a herio o ran

    perfformiad ariannol

  • Arwain ar feysydd Adolygiad Cyfnodol Ofwat o ffïoedd cwmnïau dŵr. Bydd hyn yn cynnwys; cost gyfartalog pwysoli cyfalaf, effeithlonrwydd totex, cymhellion.

  • Gweithio gyda chwmnïau ar ddeall eu cynlluniau i dreialu a gweithredu strwythurau codi tâl amgen gyda'r nod deuol o fynd i'r afael â materion fforddiadwyedd a darparu'r signalau prisio cywir sy'n adlewyrchu costau parhaus y cyflenwad a heriau prinder dŵr.

  • Darparu dadansoddiadau, modelu a dealltwriaeth data ar ystod ehangach o faterion i gefnogi ein gwaith polisi, gan ategu gwaith ein tîm polisi a'n tîm tystiolaeth a dealltwriaeth.

Ganarwain rhaglen bolisi o fewn amgylchedd penodol o gyfrifoldeb polisi, mae'r rôl hon yn cefnogi rhoi Blaenraglen Waith CCW ar waith ynghyd â’r cynllun busnes gweithredol.

Byddwch yn siarad o blaid gwelliannau i ddefnyddwyr dŵr trwy arwain ymgyrchoedd a mentrau perthnasol, gan ymgysylltu'n uniongyrchol ag uwch-randdeiliaid yn genedlaethol ac mewn cwmnïau. Trwy fod yn arbenigwr dibynadwy mewn maes polisi hanfodol, byddwch yn dyrchafu gwaith polisi mawr CCW i sefyllfa flaenllaw yn y sector, gan osod y safon ar gyfer arferion gorau'r diwydiant.

Bydd rhannu arbenigedd a gwybodaeth polisi ac ariannol gyda'ch cydweithwyr yn hanfodol er mwyn hysbysu a gwella eu galluogrwydd, a rhannu arferion da ar draws y sector. Byddwch yn sicrhau bod CCW yn cael gwybod am newidiadau polisi allanol neu heriau gweithredol sy'n berthnasol i'w maes polisi a’i fod yn barod amdanynt, gan fynd ati’n weithredol i nodi a mynd i'r afael â pholisïau neu faterion sy'n codi, a nodi cyfleoedd i CCW gymryd yr awenau.

Mae meithrin cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid allanol sy'n berthnasol i'r maes polisi yn hanfodol. Hefyd, byddwch yn gyfrifol am raglenni a phrosiectau penodol ar ran y Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil ac Ymgyrchoedd fel bo'r angen.

Nodwch: Rôl hybrid yw hon gyda gofyniad rheolaidd i fynychu swyddfa Birmingham, a hynny'n aml yn wythnosol. Bydd angen aros dros nos yn Birmingham a rhannau eraill o'r wlad.

Pa fath o berson sydd ei angen:

Fel UwchArweinydd Polisi ar gyfer cyllid,byddwch yn gallu dangos:

  • Dealltwriaeth fanwl o strwythurau a modelau ariannol;

  • Profiad o gymharu perfformiad ariannol rhwng busnesau;

  • Gallu profedig i drosi deunydd ariannol cymhleth yn iaith glir i ddefnyddwyr.

  • Sgiliau datblygu polisi.

  • Arweinyddiaeth a mewnbwn strategol ar feysydd polisi arweiniol.

  • Mewnbwn o ran adolygu prisiau i ddylanwadu ar gynlluniau busnes y cwmni.

  • Cwestiynu ariannol.

  • Dylanwadu ar yr agenda.

  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid.

  • Cydweithio â sefydliadau partner ar brosiectau polisi sydd o fudd i'r ddwy ochr.

  • Rheoli ymgyrchoedd.

  • Profiad a gwybodaeth am amgylcheddau a reoleiddir.

  • Y gallu i gynrychioli CCW yn effeithiol gyda rhanddeiliaid allanol.

  • Parodrwydd i deithio ledled Cymru a Lloegr

  • Hyblygrwydd i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol, o bryd i'w gilydd.

Cyflog a buddion

Cyflog cychwynnol o £47k - £52k.

Buddion yn cynnwys:

  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

  • Amser hyblyg - hyd at 24 diwrnod ychwanegol i ffwrdd y flwyddyn.

  • Darpariaeth gwyliau blynyddol hael – 25 diwrnod yn codi 1 diwrnod bob blwyddyn (uchafswm o 30 diwrnod).

  • Opsiynau gweithio hyblyg.

  • Gostyngiadau manwerthu a gofal iechyd/arian yn ôl.

  • Benthyciadau tocyn tymor ar gyfer teithio.

  • Benthyciadau beic.

  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llawer mwy.